Asiantaeth ymchwil annibynnol yw ORS sy’n cynnal yr Arolwg Asesiad Iechyd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ac ar ran yr Adran Cymunedau yng Ngogledd Iwerddon.
Anfonwyd neges atoch i roi gwybod eich bod wedi cael eich dewis i gymryd rhan mewn arolwg am yr asesiad iechyd a gynhaliwyd yn dilyn eich cais diweddar am fudd-dal.
Mae’n hawdd cymryd rhan, ond does dim rhaid i chi. Ni fydd eich dewis i gymryd rhan ai
peidio na eich atebion i gwestiynau’r arolwg yn dylanwadu ar ganlyniad eich asesiad iechyd
nac yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau a gewch chi nawr neu yn y dyfodol.
Gallwch ddewis un o’r opsiynau isod i ateb yr arolwg ar-lein, trefnu cyfweliad ffôn drwy rhoi gwybod pryd fyddai’r amser gorau i gyfwelydd eich galw, neu ddweud wrthym os nad ydych am gymryd rhan. Os byddai’n well gennych siarad â ni, gallwch ffonio Rhadffôn 0800 324 7005. Os na chlywn oddi wrthych, bydd un o’n cyfwelwyr yn eich galw chi dros yr wythnos neu ddwy nesaf.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau a’r Adran Cymunedau yn defnyddio’r adborth o’r arolwg i’w helpu i ddarparu’r gwasanaeth gorau i bobl sy’n gwneud cais am fudd-daliadau yn y dyfodol, felly rydym yn gobeithio y bydd gennych chi amser i rannu eich adborth.
Opinion Research Services Ltd ydym ni, cwmni cyfyngedig sydd wedi’i gofrestru yng Nghymru a Lloegr i gynnal Arolygon Barn Cyhoeddus ac Ymchwil i’r Farchnad. Rhif y cwmni yw 02904006.
Mae cwestiynau’r arolwg yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau am eich asesiad iechyd a’r ffordd y cafodd ei gynnal gan y darparwr, yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi.
Ni fydd eich dewis i gymryd rhan ai peidio na eich atebion i gwestiynau’r arolwg yn dylanwadu ar ganlyniad eich asesiad iechyd nac yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau a gewch chi nawr nac yn y dyfodol.
Bydd cymryd rhan yn yr arolwg yn helpu i lywio’r gwasanaeth a ddarperir a gwella’r profiad i bobl sy’n gwneud cais am fudd-daliadau yn y dyfodol, felly gobeithio y bydd gennych chi amser i rannu eich adborth.
Opinion Research Services (ORS) sy’n cynnal yr arolwg ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ac ar ran yr Adran Cymunedau yng Ngogledd Iwerddon.
Asiantaeth ymchwil cymdeithasol annibynnol yw ORS sy’n cydymffurfio â Chod Ymddygiad y Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad.
Cafodd eich enw ei ddewis ar hap o’r rhestr o bawb sydd wedi cael asesiad iechyd y mis hwn.
Rydych chi wedi rhannu eich manylion â’r Adran Gwaith a Phensiynau neu’r Adran Cymunedau rhag ofn y byddai angen iddynt gysylltu â chi, sy’n cynnwys gofyn am adborth.
Mae eich manylion cyswllt wedi cael eu rhannu â thîm arolwg ORS er mwyn iddynt gysylltu â chi i holi am yr asesiad iechyd.
Mae’r holl ddata mae ORS yn ei brosesu yn cael ei ddiogelu bob amser. Byddwn yn trin eich holl wybodaeth yn gwbl gyfrinachol o dan delerau Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU. Gallwch ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn rheoli data.
Bydd ORS yn defnyddio eich manylion ar gyfer yr arolwg hwn yn unig, ac ni fyddwch yn cael unrhyw bost sothach na galwadau marchnata ar ôl dewis cymryd rhan.
Mae gennym System Rheoli Diogelwch Gwybodaeth sydd wedi’i hachredu i ISO 27001. Mae hyn yn cynnwys diogelwch ein systemau TG, diogelwch ffisegol ein hadeiladau a’r mesurau gweithredol sydd ar waith drwy bolisïau, gweithdrefnau ac arferion gweithio. Mae unrhyw feddalwedd neu systemau newydd rydym yn eu datblygu yn cael eu dylunio drwy ystyried preifatrwydd.
Mae ein systemau TG hefyd wedi’u hachredu o dan y cynllun Cyber Essentials sy’n cael eu oruchwylio gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.
Bydd yr atebion a roddwch i’r cyfwelydd yn cael eu gweld gan ymchwilwyr yn ORS sy’n gweithio ar yr arolwg.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, bydd eich atebion yn cael eu rhannu ag ymchwilwyr o’r Adran Gwaith a Phensiynau i’w helpu i fonitro perfformiad y darparwyr asesiadau iechyd. Bydd yr ymchwilwyr yn gallu eich adnabod o’r data, gan y bydd hyn yn eu helpu i ganfod unrhyw welliannau sydd eu hangen. Gallwch gysylltu â nhw drwy anfon e-bost at FAS.HealthSurvey@dwp.gov.uk
Os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon, bydd eich atebion yn cael eu rhannu ag ymchwilwyr o’r Adran Cymunedau i’w helpu i fonitro perfformiad y darparwyr asesiadau iechyd yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â nhw drwy anfon e-bost at dfccontractmanagementbranch@communities-ni.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae eich data personol yn cael ei drin, ewch i www.gov.uk/government/organisations/department-for-work-pensions/about/personal-information-charter.cy ac www.communities-ni.gov.uk/dfc-privacy-notice
Nodwch eich Cyfeirnod yn y bocs ar ben y dudalen hon ac yna gallwch glicio i gymryd rhan ar-lein neu roi gwybod i ni pryd fyddai’r amser gorau i’ch galw.
Gallwch gymryd rhan hefyd drwy ffonio Radffôn 0800 324 7005 cyn 8:00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener neu cyn 4:00pm ar ddydd Sadwrn. Os byddwch yn ffonio ar ôl y cyfnod hwn, mae’n bosibl y bydd angen i chi adael neges a byddwn yn eich ffonio’n ôl cyn gynted â phosibl.
Os na chlywn oddi wrthych, neu os na fyddwch yn dweud wrthym pryd fyddai’r amser gorau i’ch galw, bydd un o’n cyfwelwyr yn eich galw chi dros yr wythnos neu ddwy nesaf.
Gallwch.
Mae’r holiadur ar-lein ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg yn unig, ond os oes angen i chi gymryd rhan mewn iaith arall, gallwch anfon e-bost at arolygon@ors.org.uk gyda’r Cyfeirnod a anfonwyd atoch, ynghyd â’ch manylion cyswllt a manylion yr iaith sydd ei hangen arnoch, a byddwn yn trefnu i chi allu cymryd rhan.
Does dim rhaid i chi gymryd rhan yn yr arolwg. Gobeithiwn y byddwch yn cymryd rhan, gan fod yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Adran Cymunedau yn dibynnu ar y bobl a ddewisir i roi adborth am y gwasanaethau sy’n cael eu darparu.
Os nad ydych eisiau cymryd rhan, nodwch eich Cyfeirnod ar ben y tudalen hwn a chliciwch i dynnu allan o’r arolwg.
Ni fydd eich dewis i gymryd rhan ai peidio na eich atebion i gwestiynau’r arolwg yn dylanwadu ar ganlyniad eich asesiad iechyd nac yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau a gewch chi nawr nac yn y dyfodol.
Mae ORS wedi’i achredu fel Cwmni Partner i Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad ac rydym yn cydymffurfio’n llawn â’r Cod Ymddygiad. Mae hyn yn profi ein bod yn gweithredu i’r safonau proffesiynol uchaf.
Mae ORS hefyd yn cydymffurfio â rheoliadau a chanllawiau gan yr holl gyrff rheoleiddio perthnasol eraill, gan gynnwys Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Pan fyddwn yn gofyn i chi am wybodaeth, byddwn yn cadw at y gyfraith, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU.
Yr Adran Gwaith a Phensiynau yw’r rheolydd data ar gyfer yr Arolwg Asesiad Iechyd yng Ngymru, Lloegr a’r Alban, a gallwch fynd i www.gov.uk/government/organisations/department-for-work-pensions/about/personal-information-charter.cy i gael rhagor o fanylion.
Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy anfon e-bost at data.protectionofficer@dwp.gov.uk
Yr Adran Cymunedau yw’r rheolydd data ar gyfer yr Arolwg Asesiad Iechyd yng Ngogledd Iwerddon, a gallwch fynd i www.communities-ni.gov.uk/dfc-privacy-notice i gael rhagor o fanylion.
Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data yr Adran Cymunedau drwy anfon e-bost at dpo@communities-ni.gov.uk
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill sydd heb gael eu hateb uchod, neu os oes gennych chi gŵyn, cysylltwch â ni.
Cofiwch roi gwybod i ni beth yw’r Cyfeirnod sydd ar y llythyr a gawsoch, neu a gafodd ei gynnwys yn yr e-bost neu’r neges destun a anfonwyd atoch.
Gallwch gysylltu â’r tîm Arolwg Asesiad Iechyd yn yr Adran Gwaith a Phensiynau drwy anfon e-bost at FAS.HealthSurvey@dwp.gov.uk a gallwch gysylltu â’r tîm yn yr Adran Cymunedau drwy anfon e-bost at dfccontractmanagementbranch@communities-ni.gov.uk
ORS provides clients with robust evidence and practical insights based on high quality, thoughtful and impartial social research